Esther MargaretJONESYn dawel ar ddydd Sadwrn 11eg Chwefror, 2023 tra yng nghwmni ei theulu yn Coedmor, hunodd Nesta, Maesyderi, Bryngwyn, Castell Newydd Emlyn yn 91 mlwydd oed; priod annwyl y diweddar Jack, mam annwyl Linda, Elias ac Ann, mam-yng-nghyfraith parchus Aled, Llinos a Paul, mamgu dyner Gethin, Carys, Steffan, Elen, Carwyn a Caryl a hen famgu hoffus Jac a Dafydd. Gwasanaeth Angladdol a Chladdedigaeth Preifat dydd Sadwrn 18fed Chwefror yng Nghapel Bryngwyn am 11.30 o'r gloch. Plethdorch y teulu yn unig, ymholiadau pellach i'r Ymgymerwr Angladdau, Maldwyn Lewis, Ffôn (01239) 851 005.
Keep me informed of updates